GŴYL RHEDEG BIWMARES 2025 – 13/14 MEDI
Mae Gŵyl Rhedeg Biwmares 2025 yn cael ei chynnal ar 13/14 Medi 2025. Mae'r digwyddiad yn croesawu Neptune Fish & Chips o Fiwmares eto fel ein prif noddwr!
Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiad y llynedd, bydd y penwythnos yn cynnwys rasys i blant a’r rasys 10K a hanner marathon Coast 2 Castle i oedolion.
Gŵyl Rhedeg i Blant – Dydd Sadwrn 13 Medi
Mae’r rasys plant (Junior Run Fest) unwaith eto yn dod mewn partneriaeth â Môn Actif ac yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn 13 Medi gan ddechrau am 4:00yp. Bydd “Ras Hwyl” i blant 3/4 oed (a rhieni / gofalwyr!), a rasys i fechgyn a merched 5/6 oed (1/2 milltir), 7/8 oed ( 3/4 milltir), 9/10 oed (1 milltir) a 11/12 oed (1 milltir). Bydd yr holl rasys plant yn cael eu hamseru’n electroneg ac yn cychwyn a gorffen o fewn muriau castell hanesyddol Biwmares! Bydd medalau i bob plentyn a gwobrau i’r 3 uchaf ym mhob categori ynghyd ag adloniant a lluniaeth ysgafn.
Gŵyl Rhedeg Clasurol (Oedolion) – Dydd Sul 14 Medi
Bydd y rasys 10K a hanner marathon (HM) i oedolion yn cael eu cynnal ddydd Sul 14 Medi. Bydd y llwybrau ar gyfer y 10K a’r HM yn cychwyn o ganol Biwmares ac yn gorffen yng nghanol castell hanesyddol y dref – diweddglo epig! Ar hyd y ffordd, cewch fwynhau amrywiaeth o olygfeydd syfrdanol a golygfeydd trawiadol. Mae’r cwrs HM hefyd yn mynd â chi lawr at Drwyn Penmon gyda’i oleudy eiconig yn edrych ar draws i Ynys Seiriol. Ar y diwedd, byddwch yn derbyn momento ras i gofio eich hymdrechion a chrys-t Coast 2 Castle o safon*. Bydd gwobrau ar gyfer y 3 cyntaf ymhob categori. Mae'r HM yn dechrau am 10:00am a'r 10K am 10:30am.
* Mae'r crys-t ar gael i'r 300 oedolyn cyntaf sydd yn cofrestru ar gyfer yr Ŵyl Rhedeg yn unig
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr ac mae'r holl elw a godir yn ystod y penwythnos Run Fest yn mynd tuag at gefnogi achosion da yn yr ardal. Helpwch ni i ragori ar y £3,475 a godwyd gennym y llynedd!
Prisiau ar gyfer 2025!
Gwyl Rhedeg Plant – Dydd Sadwrn 13 Medi
Mae categorïau oedran yn seiliedig ar oedran plentyn ar ddiwrnod y digwyddiad.
Cost mynediad: £7.00 y plentyn
Cyfradd ‘Cyntaf i’r Felin’: £5.00 ar gyfer os yn cofrestru cyn 31 Mawrth 2025]
Mae'r pris yn cynnwys ffïoedd cerdyn, amseru electroneg, lluniaeth a medalau
Gŵyl Rhedeg Oedolion – Dydd Sul 14 Medi
Prisiau ffioedd mynediad heb newid o 2024 ac yn dal i gynnwys ffioedd cerbyn, amseru electroneg, lluniaeth, momento a chrys-t*
(*Mae'r crys-t ar gael i'r 300 oedolyn cyntaf i gofrestru yn unig)
10K: £27.00
Cyfradd ‘Cyntaf i’r Felin’: £24.00 os dderbynnir eich cais cyn 31 Mawrth 2025
HM: £35.00
Cyfradd ‘Cyntaf i’r Felin’: £30.00 os dderbynnir eich cais cyn 31 Mawrth 2025
BEAUMARIS RUN FEST WEEKEND 2025 – 13th/14th SEPTEMBER
The Beaumaris Run Fest 2025 Weekend is being held on 13th/14th September 2025. The event welcomes Neptune Fish & Chips of Beaumaris again as its main sponsor!
Building on the success of last year’s event, the weekend will incorporate races for children and the fantastic Coast 2 Castle 10k and half marathon for adults.
Junior Run Fest Saturday 13th
The children’s races are once again brought to you in partnership with Môn Actif and will be held on Saturday 13th September starting at 4:00pm. There will be a “Fun Run” for 3/4 year olds (and parents/carers!) and races for boys and girls 5/6 years old (1/2 mile), 7/8 years old (3/4 mile), 9/10 years old (1 mile) and 11/12 years old (1 mile). All the children’s races will by chip-timed and start and finish inside the historic Beaumaris Castle! There will be refreshments and medals for all children with prizes for the top 3 in each category.
Classic Beaumaris Run Fest Sunday 14th
The adult 10K and half marathon (HM) will take place on Sunday 14th September. The routes for both the 10k and HM will start from the centre of Beaumaris and finish in the heart of the town’s historic castle – an epic finish! Along the way, they will take in an array of breathtaking views and stunning scenery. The HM course also takes you down to Penmon Point with its iconic lighthouse looking across to Ynys Seiriol (also known as Puffin Island). At the finish, you will receive a race momento to commemorate your acheivement and a quality Coast 2 Castle t-shirt*. There will be prizes for the top 3 in each category. The HM starts at 10:00am and the 10K at 10:10am.
*The t-shirt is only available to the first 300 adults entered for the Run Fest weekend.
The event is run by volunteers and all proceeds raised by the Run Fest Weekend go towards supporting local good causes. Help us beat the £3,475 we raised last year!
Prices held from 2024!
Junior Run Fest Saturday 13th
Race categories are based on a child’s age on the day of the event.
Entry fee: £7.00 per child
Early bird rate: £5.00 if entry received before 31st March!
Price includes card fees, chip-timing, refreshments, and medals.
Classic Beaumaris Run Fest Sunday 14th
Entry fee prices unchanged from 2024 and still include card fees, chip-timing, refreshments, race momento and your quality Coast 2 Castle t-shirt*
(*The t-shirt is only available to the first 300 adults entered)
10K: £27.00
Early bird rate: £24.00 if entry received before 31st March!
HM: £35.00
Early bird rate: £30.00 if entry received before 31st March!